Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
Mae'r adroddiad hwn yn argymell diwygiadau i Reolau Sefydlog 12 a 34 i ymestyn effaith y Rheolau Sefydlog dros dro presennol i'r Chweched Senedd.
Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae’r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.
Gwahoddir y Senedd hefyd i nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
Cynnwys
4. Pleidleisio electronig o bell ar gyfer ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 12 a 34, a nodiadau esboniadol
Atodiad B – Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y'u diwygiwyd
1. Ar hyn o bryd mae gan y Senedd ddwy Reol Sefydlog dros dro:
i. Gweithdrefnau Brys i hwyluso parhad busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19, a nodir yn Rheol Sefydlog 34, sy’n dod i ben pan fydd y Senedd yn cael ei diddymu; a
ii. Pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Aelodau ar absenoldeb rhiant, a nodir yn Rheolau Sefydlog 12.41A-H, sy'n dod i ben ar 6 Ebrill 2021[1].
2. Adolygodd y Pwyllgor Busnes y gweithdrefnau dros dro hyn fel rhan o'i adolygiad o'r Rheolau Sefydlog.
3. Cytunodd y Senedd i gyflwyno pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant ar 11 Mawrth 2020 am gyfnod treialu, dros dro.
4. Hyd yma, mae un Aelod wedi pleidleisio drwy ddirprwy yn unol â Rheol Sefydlog 12.41A. Trefnodd Bethan Sayed AS fod Dai Lloyd AS yn pleidleisio ar ei rhan fel dirprwy am gyfnod o chwe mis (yr uchafswm a ganiateir yn y Rheolau Sefydlog).
5. Ar adeg cyflwyno'r weithdrefn dros dro, ymrwymodd y Pwyllgor Busnes i werthuso'r darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy newydd cyn penderfynu a ddylid gwneud y ddarpariaeth yn barhaol, neu ehangu’r cymhwysedd i gynnwys salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill.
6. Oherwydd yr achosion o COVID-19, roedd y gweithdrefnau pleidleisio drwy ddirprwy yn cyd-daro â newidiadau dros dro eraill i'r trefniadau pleidleisio, sef pleidleisio wedi'i bwysoli a phleidleisio o bell o dan Reol Sefydlog 34.11 – 34.14D. O ganlyniad, ni ddaeth trefniant Bethan Sayed i bleidleisio drwy ddirprwy i ben tan 8 Ionawr 2021.
7. Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig diwygio Rheol Sefydlog 12.41H fel bod y Rheolau Sefydlog ar bleidleisio drwy ddirprwy yn peidio â chael effaith ar 1 Awst 2022, yn hytrach na 6 Ebrill 2021. Bydd hyn yn golygu bod modd parhau i bleidleisio drwy ddirprwy, hyd nes y bydd Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd yn gwerthuso’r drefn hon.
8. Ar 18 a 23 Mawrth 2020, cytunodd y Senedd ar Reolau Sefydlog dros dro i ddarparu ar gyfer parhad busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 34; pan fo darpariaethau a gynhwysir yn y Rheol Sefydlog honno yn gwrthdaro â darpariaethau eraill, rhoddir blaenoriaeth i Reol Sefydlog 34.
9. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r Rheolau Sefydlog yn cyfeirio at Aelodau yn ‘cymryd rhan’ mewn trafodion, drwy wneud hynny o bell neu'n bersonol. Fodd bynnag, mae rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn ofynnol er mwyn cynnal rhai agweddau ar drafodion rhithwir neu hybrid y Senedd, sef pleidleisio o bell neu bleidleisio wedi'i bwysoli, a datgymhwyso’r gofyniad i’r cyhoedd gael mynediad i drafodion yn bersonol.
10. Bydd Rheol Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. O ystyried y cyfyngiadau COVID-19 parhaus yng Nghymru, mae'r Pwyllgor Busnes o'r farn ei bod yn ddoeth i ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 barhau i fod ar waith ddechrau'r Senedd nesaf.
11. Mae'r Pwyllgor Busnes, felly, yn cynnig diwygio Rheol Sefydlog 34.1 fel bod Rheol Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith naill ai ar 1 Awst 2022, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa bynnag sydd gyntaf. Bydd hyn yn hwyluso parhad busnes ar ddechrau'r Chweched Senedd, gan ganiatáu amser i'r Pwyllgor Busnes newydd adolygu gweithrediad y Rheol Sefydlog.
12. Yr eitem gyntaf o fusnes ar gyfer y Senedd newydd fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Os ceir dau neu ragor o enwebiadau, mae Rheol Sefydlog 6.8 yn ei gwneud yn ofynnol i etholiad gael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.
13. Mae Rheol Sefydlog 34.14A yn darparu y caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, wneud trefniadau i'r Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig, os yw’n penderfynu ei bod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Mae'r ddarpariaeth hon wedi bod yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r Senedd barhau i weithredu ar ffurf rithwir a hybrid yn ystod pandemig COVID-19.
14. Ar 22 Chwefror 2021, trafododd y Pwyllgor Busnes bapur sy’n nodi dull o gynnal pleidlais gyfrinachol drwy ddulliau electronig gan ddefnyddio Microsoft (MS) Forms. Cytunodd y Pwyllgor fod y dull arfaethedig yn darparu lefel briodol o anhysbysrwydd a diogelwch i’w defnyddio wrth ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd, pe bai angen.
15. Ar ddechrau'r Senedd newydd, ni fydd Pwyllgor Busnes ar waith i'r Llywydd ymgynghori â hwy ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A.
16.
Barn unfrydol y Pwyllgor Busnes hwn
yw - cyn sefydlu Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd - y caiff y
Llywydd wneud trefniadau o dan Reol Sefydlog 34.14A i Aelodau
bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig, gan gynnwys
at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
17. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 16 Mawrth 2021 a gwahoddir y Senedd i gymeradwyo’r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.
18. Gwahoddir y Senedd hefyd i nodi argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Busnes sef - cyn sefydlu Pwyllgor Busnes y Chweched Senedd - y caiff y Llywydd wneud trefniadau i Aelodau bleidleisio o unrhyw leoliad trwy ddulliau electronig o dan Reol Sefydlog 34.14A, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 12 a 34, a nodiadau esboniadol
Penderfynu ar Gynigion a Gwelliannau |
Cadw'r pennawd |
12.41 Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol ac yn bersonol (ond nid yw’n ofynnol iddynt bleidleisio). |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41A Caiff Aelod, oherwydd absenoldeb o'r Senedd yn sgil absenoldeb rhiant, drefnu bod Aelod arall yn bwrw pleidlais ar ei ran fel dirprwy (pleidlais drwy ddirprwy). |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41B Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.41C, caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy ar holl fusnes y Cyfarfod Llawn (gan gynnwys pleidleisiau cyfrinachol o dan Reol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 17) a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41C Ni chaniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41D Rhaid i bleidlais drwy ddirprwy beidio â chyfrif tuag at y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn pleidlais at ddibenion Rheol Sefydlog 12.46. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41E Dim ond os yw'r Llywydd wedi ardystio bod yr Aelod y mae'r bleidlais i’w bwrw ar ei ran yn gymwys o dan delerau Rheol Sefydlog 12.41A y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41F Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw gan ddirprwy yn glir yn y cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn neu yng nghofnodion Pwyllgor o’r Senedd Gyfan. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12..41G Rhaid i'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar weithredu’r drefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth. |
12.41H Bydd
Rheolau Sefydlog 12.41A – 12.41H, a'r cyfeiriadau atynt yn
Rheolau Sefydlog 12.41 a 17.48, yn peidio â chael effaith ar
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae'r darpariaethau dros dro ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn cael eu hymestyn i 1 Awst 2022, er mwyn caniatáu amser i'r Pwyllgor Busnes newydd gynnal adolygiad ar weithredu’r drefn hon. |
34.1 Mae Rheol
Sefydlog 34 yn gwneud darpariaethau dros dro i hwyluso parhad
busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19. Bydd Rheol
Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith ar 1 Awst 2022
|
Diwygio Rheolau Sefydlog Mae'r darpariaethau dros dro yn cael eu hymestyn i 1 Awst 2022, oni bai bod y Senedd yn penderfynu eu dileu yn gynt. Yn ogystal â chaniatáu i’r Senedd barhau i weithredu yng nghyd-destun y pandemig, bydd hyn yn caniatáu amser i'r Pwyllgor Busnes newydd adolygu’r drefn o weithredu’r Rheol Sefydlog. |
Atodiad B – Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y'u diwygiwyd
12.41 Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 12.41A-H, rhaid i Aelodau fwrw eu pleidlais yn unigol ac yn bersonol (ond nid yw’n ofynnol iddynt bleidleisio).
12.41A Caiff Aelod, oherwydd absenoldeb o'r Senedd yn sgil absenoldeb rhiant, drefnu bod Aelod arall yn bwrw pleidlais ar ei ran fel dirprwy (pleidlais drwy ddirprwy).
12.41B Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.41C, caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy ar holl fusnes y Cyfarfod Llawn (gan gynnwys pleidleisiau cyfrinachol o dan Reol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 17) a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan.
12.41C Ni chaniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.
12.41D Rhaid i bleidlais drwy ddirprwy beidio â chyfrif tuag at y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn pleidlais at ddibenion Rheol Sefydlog 12.46.
12.41E Dim ond os yw'r Llywydd wedi ardystio bod yr Aelod y mae'r bleidlais i’w bwrw ar ei ran yn gymwys o dan delerau Rheol Sefydlog 12.41A y caniateir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.
12.41F Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw gan ddirprwy yn glir yn y cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn neu yng nghofnodion Pwyllgor o’r Senedd Gyfan.
12.41G Rhaid i'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar weithredu’r drefn pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.
12.41H Bydd Rheolau Sefydlog 12.41A – 12.41H, a'r cyfeiriadau atynt yn Rheolau Sefydlog 12.41 a 17.48, yn peidio â chael effaith ar 1 Awst 2022.
34.1 Mae Rheol Sefydlog 34 yn gwneud darpariaethau dros dro i hwyluso parhad busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19. Bydd Rheol Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith ar 1 Awst 2022, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Pan fo darpariaethau a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 34 yn gwrthdaro â darpariaethau eraill y Rheolau Sefydlog, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r rhai yn Rheol Sefydlog 34.
[1] 6 Ebrill 2021 oedd y dyddiad diddymu disgwyliedig o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Newidiodd adran 3(1) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) ddyddiad diddymu'r Senedd gyfredol i 29 Ebrill 2021.